
Clic o'r Archif
Podcast de S4C
Empieza 7 días de prueba
$99 / mes después de la prueba.Cancela cuando quieras.

Más de 1 millón de oyentes
Podimo te va a encantar, y no estás solo/a
Rated 4.7 in the App Store
Acerca de Clic o'r Archif
Sgwrs ddychanol am rai o raglenni archif bocs sets S4C Clic. Podlediad newydd yw Clic o’r Archif sy'n trafod hen gyfresi o'r archif. Mae'r rhaglenni yma i gyd ar gael ar S4C Clic. Tanysgrifiwch i'r sianel YouTube i wylio'r podlediad. Mae hefyd yn bosib gwrando ar Apple Music, Google Podcasts, a Spotify. Clic: https://www.s4c.cymru/clic/BoxSets YouTube: https://www.youtube.com/watch?v=HcRPcXVgKwM
Todos los episodios
6 episodios
Cuddiwch dan y duvet achos maen nhw nôl. Miriam Isaac a Iestyn Arwel fydd yn tynnu tair ffilm arswyd diweddaraf S4C Clic i ddarnau gyda sêr Merched Parchus, sef Hanna Jarman a Mari Beard. Pam fod Dafydd Iwan gwyrdd yn gorwedd yn noeth mewn ffos? Ydy hi’n iawn i ferch olchi ei gwallt mewn sinc? A wnaeth cân newydd Dewi Pws ladd Hywel Gwynfryn? Ydy’r telyn, wedi torri? Mae’r holl ffilmiau a Merched Parchus ar gael i wylio nawr yn adran bocs sets S4C Clic: https://www.s4c.cymru/clic/BoxSets [https://www.s4c.cymru/clic/BoxSets] Special Guests: Hanna Jarman and Mari Beard.

Mae Maes Menai yn rhemp. Tydi car neb yn saff ac mae gwerthu cyffuriau ar gongol y stryd yn beth digon cyffredin. Y man perffaith i Miriam a Iestyn holi Heather (yr actores a’r darllenwraig newyddion Jeniffer Jones) o’r gyfres Tipyn o Stâd yn dwll am Ffag y ci, rhinweddau’ kick boxing’ yn erbyn gwerthu rhyw a phapur wal amrywiol y Gurkhas. Bydd hefyd cyfle i ddarganfod gyda beth fyddai ei thad yn y gyfres yn chwarae petai na ‘lockdown’. Dilynwch y linc i weld pob un cyfres Tipyn o Stâd yn adran bocs sets Clic: https://www.s4c.cymru/clic/programme/43735779 [https://www.s4c.cymru/clic/programme/43735779] Special Guest: Jennifer Vaughan Jones.

Yn y bennod ddiweddara o Clic o'r Archif mae Ffion Dafis yn ymuno â Miriam a Iestyn i drafod Amdani, un o gyfresi mwyaf poblogaidd S4C a greodd tipyn o gyffro pan y dangoswyd gyntaf ym 1999. Seliwyd y gyfres ar nofel boblogaidd Bethan Gwanas yn sôn am dîm rygbi merched mewn tref fechan yng Ngogledd Cymru. Dilynwch y linc i weld y gyfres yn adran bocs sets Clic: https://www.s4c.cymru/clic/programme/21677910 [https://www.s4c.cymru/clic/programme/21677910] Special Guest: Ffion Dafis.

Dewch i’r Samporiwm yn y bennod yma o Clic O’r Archif. Bydd Caryl Parry Jones yn ymuno â Miriam Isaac ac Iestyn Arwel ac yn trafod y clasur Nadoligaidd: Y Dyn 'Nath Ddwyn y Dolig. Cyfle i glywed o lygad y ffynnon am gynnwys annisgwyl diwedd y ffilm, y ffrog roedd pawb yn ei gasáu a chyfrinach llais peraidd un o’r actorion. Rhybudd: Yn cynnwys iaith gref a Caryl Parry Jones yn rhegu! Dilynwch y linc i weld y ffilm yn adran bocs sets Clic: https://www.s4c.cymru/clic/programme/21589028 [https://www.s4c.cymru/clic/programme/21589028] Special Guest: Caryl Parry Jones.

Wp a deis! Raslas bach a mawr! Yn y bennod yma o’r podlediad Clic O’r Archif bydd Plwmsan ei hun, Mici Plwm yn ymuno â Miriam Isaac ac Iestyn Arwel ac yn trafod y gyfres eiconig: Anturiaethau Syr Wynff a Plwmsan. Cyfle i glywed o lygad y ffynnon am ffan annisgwyl y deuawd enwog, beth sy’n gwneud slebjan dda a hanes brawd bach Plwmsan. RHYBUDD: Yn cynnwys iaith gref a slebjans! Dilynwch y linc i weld y bocs sets: https://www.s4c.cymru/clic/programme/21589028 [https://www.s4c.cymru/clic/programme/21589028] Special Guest: Mici Plwm.

Rated 4.7 in the App Store
Empieza 7 días de prueba
$99 / mes después de la prueba.Cancela cuando quieras.
Podcasts exclusivos
Sin anuncios
Podcast gratuitos
Audiolibros
20 horas / mes