Y Busnes Rhedeg 'Ma

Y Busnes Rhedeg 'Ma

Podcast de Owain Schiavone

Podlediad rhedeg Cymraeg yn trin a thrafod newyddion rhedeg, hyfforddi a mwy, ynghyd â chyfweliadau gyda rhedwyr Cymreig. Cyflwynir gan Owain Schiavone Welsh language running podcast featuring news, training and interviews. Presented by Owain Schiavone.

Empieza 7 días de prueba

$99.00 / mes después de la prueba.Cancela cuando quieras.

Prueba gratis

Todos los episodios

16 episodios
episode Pennod 1 (cyfres 2) - Dyfed Whiteside-Thomas artwork
Pennod 1 (cyfres 2) - Dyfed Whiteside-Thomas

Mae'r podlediad yn ôl yn dilyn saib fach, a gwestai cyntaf yr ail gyfres ydy ffrind mawr i'r pod, Dyfed Whiteside-Thomas. Mae Dyfed yn aelod o Glwb Harriers Eryri, ac yn bennaf gyfrifol am y 'Sesiwn Elltydd' enwog (Thursday Night Hills) yn Llanberis. Mae hefyd yn rhedwr arbennig ac rydan ni'n sgwrsio'n fuan ar ôl iddo redeg marathon wych yng Nghasnewydd gan orffen mewn 2:43:57 - y Cymro cyntaf yn ei gategori oedran, sy'n ei wneud yn bencampwr M45 Cymry yn ein tyb ni, gan bod y ras yn Bencampwriaeth Meistri Cymru eleni (canlyniadau llawn [https://www.tdleventservices.co.uk/event-results/events?event=3616]). Sgwrs ddifyr, gyda boi da. Cyfle hefyd i grynhoi canlyniadau rhywfaint o'r rasys sydd wedi bod yn ddiweddar, wrth i bethau ail-ddechau o ddifrif. Lot mwy o hyn yn y gyfres gobeithio. Cerddoriaeth y bennod yma ydy 'Dyma Kim Carsons' gan y grŵp newydd o ardal Pontypridd, Y Dail. Allan yn ddigidol rŵan [https://ydail.bandcamp.com/track/dyma-kim-carsons].

17 nov 2021 - 1 h 10 min
episode Pennod 13 - Adolygiad efo Arwel artwork
Pennod 13 - Adolygiad efo Arwel

Pennod fach wahanol y tro yma, cyfle i ddal fyny a thrafod sawl peth o'r byd rhedeg gydag Arwel Evans o Running Review Cymru [https://runningreviewcymru.com]. Mae rasio'n dechrau nôl yn raddol felly mae'n gyfle i drafod rhai o'r rasus sydd wedi digwydd yng Nghymru gan gynnwys 10K Nick Beer yn Llandudno a chyfres 5K Athletau Cymru yn Y Rhyl a Phenbre. Mae'n gyfle hefyd y gael rhagolwg fach o athletau'r Gemau Olympaidd, y gobeithion Cymreig gyda Jake Hayward, ac ambell uchafbwynt arall o'r amserlen. Pennod syml, dim nonsens - rhowch wybod eich barn ac os hoffech chi glywed mwy o'r rhain yn y dyfodol.

26 jul 2021 - 53 min
episode Pennod 12 - Dr Ioan Rees artwork
Pennod 12 - Dr Ioan Rees

Bydd llawer iawn o bobl yn gyfarwydd â Dr Ioan Rees diolch i gyfres deledu boblogaidd Ffit Cymru ar S4C, ond efallai mai llawer llai fydd yn gwybod ei fod hefyd yn athletwr dycnwch llwyddiannus. Mae Ioan yn un o arbenigwyr Ffit Cymru, ac mae'r seicolegydd wedi bod yn ganolog i lwyddiant y gyfres, a'r rhai sy'n cymryd rhan ynddi yn eu hymdrechion i golli pwysau a byw yn fwy iach. Ac mae ganddo brofiad uniongyrchol o ymgymryd â phroses debyg ei hun wrth iddo golli 6 stôn dros gwta 9 mis er mwyn cymryd rhan yn ei Ironman cyntaf yn 2009. Ers hynny, mae wedi cwblhau 5 Ironman arall gan ddod a'i amser lawr i 12 awr. Mae'r sgwrs gyda Dr Ioan yn amserol iawn wrth i gyfyngiadau Covid lacio ac wrth i ni obeithio gweld rasio'n dychwelyd i Gymru, a'r heriau seicolegol sy'n ein wynebu i gyd gyda hynny. Mae ganddo lawer o gyngor ardderchog i athletwyr ar bob lefel hefyd, ac mae rhywbeth i bawb yn y sgwrs heb os. Cerddoriaeth y bennod yma ydy sengl newydd Y Cledrau [https://song.link/i/1565434204], 'Hei Be Sy' sydd allan ar label I KA CHING. Ac mae fideo gwych ar gyfer y sengl ar YouTube [https://www.youtube.com/watch?v=WreLlJXK4kM].

25 may 2021 - 1 h 21 min
episode Pennod 11 (Rhan 2) - Angharad Mair artwork
Pennod 11 (Rhan 2) - Angharad Mair

Ail ran y sgwrs gyda'r gyflwynwraig, ac un o redwyr marathon gorau Cymru erioed, Angharad Mair. Yn y rhan yma o'r sgwrs rydym yn trafod comeback Angharad i redeg ar ôl tua 15 mlynedd i ffwrdd o'r gamp, a'i llwyddiannau anhygoel wedi hynny. Rydym hefyd yn trafod y ffaith ei bod wedi ail-ddechrau eto erbyn hyn ar ôl cyfnod (byrrach) i ffwrdd, a'i chynlluniau a gobeithon ar gyfer y dyfodol. Mae hefyd cyfle i drafod rhywfaint ar sefyllfa darlledu rasys rhedeg, a'r cyfleoedd sydd i ddarlledwyr. Cerddoriaeth y bennod yma ydy 'Adfywio' sef sengl newydd The Gentle Good, allan ar label Bubblewrap Records nawr [https://album.link/i/1562176089]. Mae'r bennod hefyd yn trafod Marathon Elite Wrecsam / Swydd Gaer a Marathon Shepperdine. Dyma ddolenni i ganlyniadau llawn rhain: Marathon Elite Wrecsam / Swydd Gaer [https://runcheshire.niftyentries.com/Results/Wrexham-Elite-Marathon] Marathon a Hanner Marathon Shepperdine [https://sites.google.com/site/roguerunsevents/home/our-events/shepperdine-marathon-and-half-marathon]

28 abr 2021 - 55 min
episode Pennod 11 (Rhan 1) - Angharad Mair artwork
Pennod 11 (Rhan 1) - Angharad Mair

Y gwestai diweddaraf i ymuno ag Owain Schiavone ar Y Busnes Rhedeg Ma ydy Angharad Mair. Mae Angharad wrth gwrs yn wyneb a llais cyfarwydd ar y cyfryngau Cymraeg fel un o gyflwynwyr amlycaf Cymru. Ond ar un pryd, Angharad oedd rhedwraig marathon gorau Cymru hefyd. Mae ei hamser gorau o 2:38:47 dros y pellter ym 1996 yn dal i'w gosod yn y 10 Uchaf o ferched Cymreig erioed, ac fe gafodd y cyfle i redeg ym Mhencampwriaethau Athletau'r Byd yn Athen y flwyddyn ganlynol. Er iddi roi'r gorau i redeg am 15 mlynedd flwyddyn yn dilyn anaf ym 1998, fe ail-gydiodd ynddi fel rhedwr hŷn, a llwyddo i dorri record Ewrop yn y categori oedran V55! Mae hanes Angharad yn un hynod o ddifyr, gymaint felly nes bod digon o ddeunydd i rannu'r bennod yn ddau - bydd yr ail ran yn ymddangos wythnos nesaf. Cerddoriaeth y bennod yma ydy sengl Griff Lynch, 'Os Ti'n Teimlo' [https://www.grifflynch.com/music], sydd allan ar label Lwcus T nawr. Mwy o wybodaeth ar wefan Y Selar [https://selar.cymru/2021/rhyddhau-sengl-nft-griff-lynch/].

21 abr 2021 - 1 h 3 min
Muy buenos Podcasts , entretenido y con historias educativas y divertidas depende de lo que cada uno busque. Yo lo suelo usar en el trabajo ya que estoy muchas horas y necesito cancelar el ruido de al rededor , Auriculares y a disfrutar ..!!
Muy buenos Podcasts , entretenido y con historias educativas y divertidas depende de lo que cada uno busque. Yo lo suelo usar en el trabajo ya que estoy muchas horas y necesito cancelar el ruido de al rededor , Auriculares y a disfrutar ..!!
Fantástica aplicación. Yo solo uso los podcast. Por un precio módico los tienes variados y cada vez más.
Me encanta la app, concentra los mejores podcast y bueno ya era ora de pagarles a todos estos creadores de contenido

Empieza 7 días de prueba

$99.00 / mes después de la prueba.Cancela cuando quieras.

Podcasts exclusivos

Sin anuncios

Podcast gratuitos

Audiolibros

20 horas / mes

Prueba gratis

Sólo en Podimo

Audiolibros populares