Share The Load Podcast - Podlediad Rhannwch Y Baich
Yn y bennod bersonol hon, mae Lois, gwirfoddolwr gyda’r DPJ, yn eistedd gyda’i thad Gerallt, i siarad yn agored am deulu, galar, a’r effaith barhaus o golli mab a brawd drwy hunanladdiad. Collwyd Andrew cyn ganed Lois, ac maent yn rhannu mewnwelediad i dyfu i fyny gyda cholled o rhywun nag oedd hi wedi cwrdd - yn dod i adnabod pwy oedd ei brawd trwy straeon, atgofion, a’r cariad sy’n dal i’w amgylchynu. Mae Gerallt yn siarad fel tad sy’n byw â galar parhaus ar ôl colli ei fab, a gyda’i gilydd maent yn trafod sut mae colled yn siapio teulu dros cenedlaethau. Mae’r sgwrs yn myfyrio ar effeithiau tawel a hirdymor profedigaeth, y ffyrdd gwahanol o brosesu galar, a sut mae gonestrwydd a chyfarthrebu yn dansail i helpu teuluoedd i gario bywyd yn ei flaen ar ôl colled. Mae’r bennod yn cynnig persbectif pwerus ar absenoldeb, cofio, a’r cryfder mae rhannu straeon yn creu - hyd yn oed pan mae’r atgofion yn cael eu cario gan eraill. Rhybudd cynnwys: Mae’r bennod hon yn cynnwys trafodaethau am hunanladdiad a phrofedigaeth a all peri gofid i rai gwrandawyr, yn benodol am unigolion gyda phrofiad o feddyliau hunanladdol, hunan-niwed, neu cholled o ganlyniad i hunanladdiad. Argymhellir disgresiwn. Os yw’r bennod hon yn codi teimladau anodd, cofiwch fod cymorth ar gael, nad oes rhaid i chi gario hyn ar eich pen eich hun. Cymerwch ofal wrth wrando/wylio a chymerwch seibiant, cam yn ôl, neu dod o hyd i gefnogaeth os mae angen. Os yr ydych yn cael trafferth a hoffwch siarad â rhywun am gefnogaeth plis ffoniwch ein llinell Rhannwch y Baich 24/7 ar 0800 587 4262 neu tecstiwch 07860 048799 www.thedpjfoundation.co.uk #RhannwchYBaich #ShareTheLoad
9 episodios
Comentarios
0Sé la primera persona en comentar
¡Regístrate ahora y únete a la comunidad de Share The Load Podcast - Podlediad Rhannwch Y Baich!