Siarad Siop - Shop Talk
Yn y bennod hon o Siarad Siop – Shop Talk, mae Heulwen Davies, Cyfarwyddwr Cwmni Marchnata a PR Llais Cymru, yn sgwrsio gyda Ani o fusnes dillad ac anrhegion Ani-bendod. Mewn sgwrs agored a gonest mae Ani’n datgelu nad yw hi wedi ennill cyflog o’r busnes eto, er gwaethaf y llwyddiant a’r twf annisgwyl. Cawn glywed sut mae’r busnes a marchnata ar Instagram wedi magu hyder y ferch swil o gefn gwlad Ceredigion. Cawn hefyd glywed sut mae’r busnes yn hybu’r Gymraeg a’i gobeithion ar gyfer y busnes a’i theulu ifanc, wrth i’r busnes symud i bencadlys newydd yng nghanol y wlad. Mae Siarad Siop – Shop Talk yn bodeldiad dwyieithog sy’n rhan o wasanaeth Ffenest Siop gan Llais Cymru. Ani-bendod: https://ffenestsiop.cymru/directory/business/ani-bendod [https://ffenestsiop.cymru/directory/business/ani-bendod] Ffenest Siop: https://ffenestsiop.cymru [https://ffenestsiop.cymru] Llais Cymru: https://en.llaiscymru.wales [https://en.llaiscymru.wales] Llwyddo’n Lleol ac Arfor: https://llwyddonlleol2050.cymru [https://llwyddonlleol2050.cymru]
5 episodios
Comentarios
0Sé la primera persona en comentar
¡Regístrate ahora y únete a la comunidad de Siarad Siop - Shop Talk!