
Help...SOS!
Podkast av hansahels
Dyma wahoddiad i chi ymuno yn ein 'DMC' ni lle ni'n gobeithio llenwi'r chwant am sgyrsie dilys a dwys yn y Gymraeg. Allwch chi ddisgwl bob dim o iechyd meddwl i berthnasau i storie chwithig.
Tidsbegrenset tilbud
3 Måneder for 9,00 kr
Deretter 99,00 kr / MånedAvslutt når som helst.
Alle episoder
6 Episoder
Ar ôl cwpl o sgyrsie gyda rai ohonoch chi ma' raglen heddi yn trafod pwysau cymdeithas arnom ni i edrych ffordd benodol‼️ Ni'n cyffwrdd ar brofiade Hanna o fethu gadel y tŷ heb golur a rhai Heledd yn trial bob diet dan yr haul o achos sylwadau pobl yn 'i byd hi💄🥗

Heno ni'n agor y sgwrs am grefydd tra'n son am ein ffydd personal ni☺️ Ma'n sgwrs ysgafn fydd gobeithio yn apelio at bob un ohonoch chi, heb ots am eich safbwynt chi ar grefydd‼️ All bobl 'crefyddol' fynd am beint? 🍻 Pam ma pethe gwael yn digwydd i bobl da? 👍 Dewch i glywed mwy! 🔥

Wthnos yma ni'n son am gariad a'r hyn ni di dysgu am berthnase dros y blynyddoedd!👩❤️👨 Dewch i glywed am fathemateg Hanna am berthynas llwyddiannus a sut nath Heledd fynd o angen "ennill cariad" i "ffeindio unan hi"🤭‼️ #hansahels [https://www.instagram.com/explore/tags/hansahels/]

Yn dilyn o'r rhaglen cynta' yr wythnos dwetha, dyma Rhaglen 2 lle ni'n son am fywyd ar ôl y brifysgol‼️👊 Dewch i glywed profiade Hanna fel merch yn ceisio torri mewn i faes Technoleg yn Llundain a'r hyrdls nath Heledd wynebu wrth ddod yn actores proffesiynol👩💻🎭#hansahels [https://www.instagram.com/explore/tags/hansahels/]

Cyflwyniad bach cloi i'r syniad tu ôl i'r podlediad a'r hyn allwch chi ddisgwl yn yr wythnosau i ddod!
Tidsbegrenset tilbud
3 Måneder for 9,00 kr
Deretter 99,00 kr / MånedAvslutt når som helst.
Eksklusive podkaster
Uten reklame
Gratis podkaster
Lydbøker
20 timer i måneden